Archive Site - Datrys is now closed.

Cyfle £1000 i Artist – Caerdydd

Cyfle £1000 i Artist – Caerdydd

Cydweithio gydag artist rhyngwladol i helpu i greu gwaith celf mawr rhyngweithiol.

MigrationsReversed-03-300-60   rspblogoblacktextbilingcmykeps_tcm7-348006CCC_Logo-8

Mae’r swydd yma yn Gaerdydd:

Cyfle

Mewn partneriaeth ag RSPB Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd mae Migrations yn chwilio am artist i gydweithio ochr yn ochr ag artist rhyngwladol i osod gwaith celf awyr agored ym Mharc Bute, Caerdydd, dros gyfnod o ddeuddeg diwrnod ym mis Gorffennaf 2015.

Cynlluniwyd y gwaith hwn fel cyfle datblygu proffesiynol gyda thâl ar gyfer artist sy’n gweithio yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn gweithiau celf rhyngweithiol ar raddfa fawr yn yr awyr agored.

Cefndir

Mae Migrations yn gweithio mewn partneriaeth ag RSPB Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd i greu Tape, gosodiad rhyngweithiol gan gasgliad o artistiaid o Groatia, Numen / For Use.

Bydd y gwaith celf enfawr yn cael ei greu’n llwyr o dâp gludiog a fydd yn ymestyn rhwng bonion coed ym Mharc Bute, Caerdydd. Fel gwe pryf copyn anferth neu gocŵn amhosibl, mae Tape yn rhwydwaith o dwneli maint pobl sy’n crogi yn yr awyr.

Bydd yr adeiladu’n digwydd dros ddeuddeg diwrnod un ar ôl y llall ac yn cael ei arwain gan yr artist rhyngwladol sy’n gyfrifol am gynllun Tape.

Eich rôl chi fydd gweithio’n ymarferol i greu Tape ochr yn ochr â Sven Jonke, artist Numen, a thîm o wirfoddolwyr o broject ‘Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd’ RSPB Cymru. Byddwch yn sicrhau bod y strwythur yn cael ei adeiladu’n ôl y cynllun ac o fewn yr amserlen a benodir.

Gobeithir y bydd eich cydweithrediad agos gyda’r artist a’i waith yn cynorthwyo gyda datblygiad eich ymarfer artistaidd eich hun.

Bydd y gwaith celf ar gael fel profiad am ddim i’r cyhoedd drwy gydol mis Awst a gobeithiwn y bydd rhai miloedd yn ei fwynhau.

Manylion Unigolyn

Mae’r unigolyn yr ydym yn chwilio amdano yn artist sy’n creu gwaith celf ac a fydd:

Hanfodol
  • â diddordeb mewn celf gyfoes
  • yn berchen ar fedrau gweithio mewn tîm a rhyngbersonol da
  • gydag agwedd bositif a brwdfrydig
  • â’r gallu i weithio’n annibynnol, ac ateb amserlen yn fanwl gywir
  • yn gyfforddus yn gweithio yn yr awyr agored ac oddi ar y ddaear ar uchder isel
  • yn gyfforddus gyda gwaith hynod o ymarferol y mae angen nerth a dyfalbarhad ar ei gyfera
  • yn gyfrifol ac yn atebol ac yn cymryd unrhyw risg iddynt hwy eu hunain ac i eraill o ddifrif
  • yn gyfathrebwr hyderus, yn fodlon ymwneud â’r cyhoedd
Dymunol
  • yn rhugl yn y Saesneg, y Gymraeg ac/neu unrhyw ieithoedd Ewropeaidd eraill
  • â diddordeb ym mywyd gwyllt Cymru a’r mannau lle maent yn byw

Disgrifiad Swydd

Gorchwylion Allweddol

     

  • helpu i greu strwythur mawr crog rhwng coed gyda thâp gludiog
  • mynychu sesiynau hyfforddi a gyflwynir gan yr artist sy’n gyfrifol am gynllunio ac adeiladu’r strwythur
  • cydweithio gyda’r artist a’r tîm gosod i sicrhau bod y strwythur yn cael ei adeiladu yn ôl y cynllun ac o fewn yr amserlen benodol
  • cymwneud yn hyderus gyda’r cyhoedd o amgylch safle’r gosodiad ee ateb cwestiynau ac ymholiadau
  • gweithio ar ddyddiau’r wythnos ac ar benwythnosau
  • gweithio yn yr awyr agored mewn parc

Details

Amodau
  • Cynigir y gwaith fel cytundeb llaw rydd penodol o ddeuddeg diwrnod.
  • Ffi hollgynhwysol o £1000.
  • 10yb – 6yh bob dydd (gydag egwyl) 20-31 Gorffennaf 2015
  • Lleolir y gwaith ym Mharc Bute, Caerdydd.
  • Darperir cinio.

Am ragor o wybodaeth: Cysylltwch â: Contact Sioned Davies, Migrations

Sut i Wneud Cais

I wneud cais am y swydd hon anfonwch CV a llythyr gyda gwybodaeth at Sioned Davies yn Migrations erbyn hanner nos ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf 2015.

Amserlen

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: Dydd Sadwrn 11 Gorffennaf 2015, hanner nos.
Hysbysiad o’r Cyfweliadau: Dydd Llun 13 Gorffennaf
Cyfweliadau (Skype): Dydd Mawrth 14 Gorffennaf

Cyswllt

Migrations Ciafaic,
25 Stryd Watling, 
Llanrwst, LL26 0LS
 Wales
+44 (0)1492 642291
post@migrations.uk
www.migrations.uk

Adnoddau

Byddwn yn darparu:

  • cyflwyniad i’ch rôl, y cyfrifoldebau a’r gwaith celf rhyngweithiol
  • briffio manwl ac asesiad risg ar gyfer y gosodiad
  • yr holl offer angenrheidiol ar gyfer y gosodiadn