Archive Site - Datrys is now closed.

Galw am Artistiaid Sain – Eryri

Galw am Artistiaid Sain – Eryri

Cyfle i ennill comisiynau sy’n rhan o brosiect Sounlands’ Dinas Sain Bangor

Mae Soundlands yn cynnig cyfle i artistiaid sain greu darnau o waith celf sain fel rhan o brosiect Dinas Sain Bangor.

Mae comisiynau ar gael i ddau artist greu naill ai gosodwaith neu berfformiad sain, gydag un o’r gweithiau i’w gyflwyno yn ninas Bangor a’r llall yng Nghwm Idwal. Fe all y gwaith fod yn waith gwreiddiol neu’n waith wedi ei ail-lunio’n arbennig ar gyfer y cyd-destun penodol hwn. Mae’n rhaid, fodd bynnag, i’r gwaith fod yn un na chafodd ei arddangos o’r blaen, ar unrhyw ffurf, yn unman yng Nghymru. Y gwaith i’w arddangos rhwng Mehefin a Gorffennaf 2015.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r syniadau: 13eg o Chwefror 2015