Archive Site - Datrys is now closed.

Taith Store

Taith Store

Client: Migrations

Ar daith cenedlaethol, defnyddiodd Migrations siopau gwag ar strydoedd fawr Cymru a chynnig syrpreis i’r cyhoedd gyda perfformiad rhyngwladol.

Trodd yr artistiaid Michikazu Matsune (Siapan) a David Subal (Awstria) wyth hen leoliad manwerthu (ac ar y stryd tu allan) i mewn i siop gwerthu perfformiadau, yn gwahodd bob un ac unrhywun i ddewis o’u bwydlen o dros chwedeg o’u perfformiadau byr.

Roedd STORE yn ddoniol, emosiynol a chaethiwus, a gyda prisiau yn dechrau am 50c, roedd celf wirioneddol yn fforddiadwy i bawb.

“Hollol wych – y perfformiad mwyaf difyr, ymgysylltiol a gwreiddiol dwi wedi weld ers amser maith.”