Client: Cyngor Sir y Fflint
[excerpt from Flintshire CC news release]
Mae celfwaith cyhoeddus newydd o’r enw One Voice / Un Llais, sydd wedi ei ariannu gan St Modwen Developments, gan yr artist Brian Fell wedi ei osod yng nghanolfan siopa Daniel Owen yn Yr Wyddgrug.
Brian Fell, sy’n gweithio yn Glossop, Swydd Derby, sydd wedi creu’r celfwaith, ac mae’n un o brif artistiaid gwaith metal y wlad. Mae o wedi ei ddylanwadu gan chwedl ymweliad St Germanus o Auxerre i Sir y Fflint yn ystod 447 A.D. pan fu iddo arwain y Brythoniaid yn eu brwydr yn erbyn y Pictiaid a’r Sacsonaidd. Gan nad oedd ganddo gymaint o filwyr â’r gelyn, gorchmynnodd St Germanus i’r Brythoniaid weiddi ‘Haleliwia, Haleliwia’ o’r bryniau. Roedd hyn yn atseinio trwy’r dyffryn ac, yn ofni bod y fyddin yn llawer mwy na’r disgwyl, gollyngodd y Pictiaid a’r Sacsonaidd eu harfau a ffoi oddi yno.
Mae’r celfwaith yn ddehongliad cyfoes o’r chwedl Buddugoliaeth Haleliwia ac mae’n cynrychioli cymunedau yn siarad gydag un llais, yn cydweithio i sicrhau dyfodol a threftadaeth Sir y Fflint.
Pubic Art Education Pack