Archive Site - Datrys is now closed.
TAPE

Client: Migrations

Fe wnaeth cydweithfa o artistiaid o Groatia, Numen / For Use greu cerflun rhyngweithiol ym Mharc Biwt, Caerdydd. Roedd y cerflun yn ymestyn rhwng boncyffion y coed fel gwe pryf cop enfawr neu gocŵn amhosibl. Roedd TAPE yn rhwydwaith o dwneli maint pobl oedd yn hongian yn yr awyr.

Fe wnaeth artist Numen, Sven Joke, a’i dîm ymroddedig o wirfoddolwyr lleol, weithio am dros bythefnos yn gosod tâp gludiog tryloyw yn ofalus i wneud darn o waith celf oedd yn ddigon cryf i ddal pwysau dyn.

Bu i dros 74,000 o bobl brofi TAPE gyda dros 10,000 yn cropian y tu mewn iddo.

Cafodd deunydd TAPE yna ei ailgylchu trwy broses arloesol a’i droi yn ddalwyr blodau gwyllt.

Bu Migrations, RSPB Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd yn cydweithio â’i gilydd ar y prosiect hwn.