Client: Pontio
Rhan o flwyddyn gyntaf o weithgareddau celf sain i Pontio, lansioff Dinas Sain Bangor hefo WetSounds – perfformiad amgen o gerddoriaeth tanddwr mewn pwll nofio.
Wedi ei ddyfeisio gan Joel Cahen, roedd y gynulleidfa yn arnofio, nofio a deifio mewn dwr wedi ei lenwi hefo sain yn defnyddio uwchseinyddion tanddwr arbennig.
Roedd perfformiadau cerddoriaeth byw gan bwysigion swreal Nurse with Wound ac roedd y noson hefyd yn cynnwys perfformiad celf tanddwr byw, coreograffi dwr newydd a mwy o gerddoriaeth a ffilm.