Client: Migrations
Am ddau ddiwrnod ym mis Hydref, fe wnaeth Migrations gynhyrfu cynulleidfaoedd gyda pherfformiad oedd yn symud trwy strydoedd Bangor.
Fe wnaeth dros fil o bobl ddilyn rhedwyr, mabolgampwyr, dringwyr a dawnswyr wrth iddyn nhw redeg trwy’r strydoedd gan wasgu, cydbwyso ac aildrefnu eu cyrff mewn ffyrdd anhygoel yng nghanol pensaernïaeth Bangor. Doedd dim angen tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn ac roedd y cynulleidfaoedd mawr yn cynyddu o hyd wrth iddo deithio trwy’r ddinas ac yng nghanol edrychiadau syn a chwilfrydig y gwylwyr.
Gyda chynulleidfa mor amrywiol, byddech chi’n disgwyl ymatebion gwahanol ond bu Bodies in Urban Spaces yn llwyddiant ysgubol. Yn ein harolwg, dywedodd 86% eu bod nhw’n meddwl ei fod yn ‘Wych!’.
Wedi ei greu gan Cie Will Dorner (Awstria), mae Bodies in Urban Spaces eisoes wedi arddangos eu gwaith ym Mharis, Fienna, Mosgo, Philadelphia, Montreau a Seoul. Fe wnaeth Bangor lwyddo i ddenu un o’r cynulleidfaoedd mwyaf erioed ar gyfer y perfformiad.
View Project