Archive Site - Datrys is now closed.

Emma McFarland

Emma McFarland
Emma McFarland

Aelod Cyswllt

  • Cefndir: dawns a chelfyddydau rhyngddisgyblaethol.
  • Diddordeb arbennig: perfformiadau awyr agored mewn llefydd penodol a gwaith digidol.
  • Wedi gweithio yn y diwydiant creadigol ers: ugain mlynedd.
  • Dawn ddiangen: nofio awyr agored.
  • Eiddo gwerthfawr: casgliad gwerthfawr o fapiau Ordnance Survey.
  • Stori gudd: Mae hi wedi golygu papur newydd dychanol gwrth-gyfalafiaeth – ar ôl iddi fod yn gweithio mewn banc buddsoddi.

Ar ôl iddi astudio economeg, aeth Emma yn ôl i weithio gyda’i hoff beth sef dawns a bu iddi ennill cymhwyster ôl-raddedig mewn Dawns Gymunedol yn Trinity Laban.

Mae hi wedi bod yn uwch-reolwraig mewn amryw o fudiadau gan gynnwys Swindon Dance, Magpie Dance, NEW Dance, a PLATFORM. Mae hi hefyd wedi datblygu ac wedi cynhyrchu gwaith ar gyfer Swindon Dance, Cwmni 2Faced Dance, y gwneuthurwr ffilm Peter Anderson, Trinity Laban, Historic Royal Palaces, Gŵyl ffilm Mileniwm Greenwich, Pavilion Dance South West a sawl bwrdeistref yn Llundain.

Tu allan i’r byd celfyddydau, fe wnaeth hi arwain y gwaith o ddatblygu un o adnoddau dysgu digidol cyntaf y sector elusennol sef wiseradviser.org. Yn dilyn hynny bu iddi gyflwyno rhaglenni a pholisïau arloesol i gynnwys pobl ifanc yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwraig Rhaglen i’r elusen Communities that Care.


Siarad hefo Emma

Saesneg