Client: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Prosiect tair blynedd, wedi ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd, sy’n anelu i ysgogi economi gyda’r nos yng Nghonwy wledig trwy gynyrchiadau diwylliannol.
Bu i Datrys drefnu digwyddiadau diwylliannol mewn lleoliadau busnes a chymunedol, gan godi lefelau lles lleol a chynyddu incwm busnesau gwledig. Roedd y digwyddiadau yn ystod y nos ac yn hyrwyddo diwylliant unigryw yr ardal yn ogystal â hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Wedi ei ariannu gan: Llywodraeth Cymru, Cronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig, Partneriaeth Wledig Conwy, Cronfa Arbrofol Eryri.
Partneriaid: Llenyddiaeth Cymru, Cymdeithas Ddrama Cymru, Archif Ffilm a Theledu Cenedlaethol Cymru, Llanast Llanrwst, Cymdeithas Hanes Llanrwst, BBC Radio Cymru, S4C.