Archive Site - Datrys is now closed.

re:verb

re:verb

Cleient: Culture Action Llandudno (CALL)

Cenhadaeth CALL ydi defnyddio gweithgareddau diwylliannol a phrofiad uniongyrchol i hwyluso adfywio Llandudno a datblygu hunaniaeth ddiwylliannol y dref.

Bu i CALL gynnal At:sain – ei brosect cyntaf a drefnwyd dan faner ‘Mannau Coll’ – gyda’r artist o’r Eidal Marinella Senatore a’i thîm. Gwahoddwyd Datrys i fod yn reolwyr cynyrchiadau i’r prosiect er mwyn sicrhau cyflwyno’r prosiect yn llwyddiannus ar amserlen dynn iawn.

Cynnwys y prosiect oedd pobl a wahoddwyd i ddweud eu stori unigol nhw am Landudno ac yna troi’r storïau hynny’n sgriptiau ffilm. Ffilmiwyd storïau cannoedd o bobl ardal Llandudno gan griw ffilmio proffesiynol ac yna fe’u cyfunwyd i greu saith ffilm fer.