Client: Migrations
Mae Filipa Francisco, coreograffydd a pherfformiwr o Bortiwgal, a’r cyfansoddwr Antonio Pedro yn cydweithio â dawnswyr gwerin, clocswyr a cherddorion lleol i greu perfformiad unigryw lle mae dawns gyfoes a dawns draddodiadol yn uno.
Mae Filipa Francisco wedi bod yn datblygu’r perfformiad gyda dawnswyr gwerin lleol, gan eu cyflwyno i ddawns gyfoes a dysgu am eu dawns draddodiadol nhw. Canlyniad hyn i gyd ydi perfformiad newydd sbon danlli ar gyfer Adain Avion ar gyfer yr Olympiad Diwylliannol.
Cyd-gynhyrchu: Migrations + Materias Diversos (Portiwgal)
Lluniau: Migrations/Warren Orchard